Mae Pwyllgor Cynulliad wedi cynyddu’r pwysau ar Lywodraeth Cymru i weithredu yn well ac yn gynt ym maes iechyd meddwl plant a phobol ifanc.
Eu rhybudd yw bod rhaglen allweddol yn dod i ben ym mis Hydref eleni ond heb ddim sicrwydd bod trefniadau yn eu lle i estyn y rhaglen neu greu rhaglen newydd.
Yn ôl y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg fe ddylid parhau â’r rhaglen, Gyda’n Gilydd, ac maen nhw wedi ysgrifennu llythyr yn uniongyrchol at y ddau weinidog perthnasol.
“Rhagor o ymdrech”
Er eu bod yn croesawu’r “cynnydd sydd wedi ei wneud mewn rhai meysydd” maen nhw’n feirniadol iawn o’r arafwch a’r diffyg gweithredu mewn meysydd eraill ac wedi galw am “ragor o ymdrech”.
Mae’r cwynion yn cynnwys:
- Galw eto am wneud “lles emosiynol ac iechyd meddwl ein plant a phobol ifanc yn flaenoriaeth genedlaethol”.
- Galw am ymestyn y rhaglen Gyda’n Gilydd – doedden nhw ddim wedi cael “sicrwydd…. bod trefniadau digonol a chadarn ar waith i gyflawni a chynnal y gwelliannau sydd eu hangen ar frys”.
- Bod angen cynnwys lles emosiynol ac iechyd meddwl yn rhan o hyfforddiant cychwynnol athrawon.
- Bod angen sicrhau gwasanaethau ar gyfer plant a phobol ifanc sy’n llithro trwy’r rhwyd ar hyn o bryd am nad yw eu hanghenion yn ddigon dwys ar gyfer y gwasanaethau sydd ar gael.
- Bod rhai Byrddau Iechyd yn dal i fethu â chynnig gwasanaeth argyfwng bob-awr-o’r-dydd.
- Bod “pryderon difrifol” am ofal mewn sefydliadau i blant a phobol ifanc – gan gynnwys diffyg staff mewn uned yn Abergele a phroblemau diogelwch ac ansawdd mewn dwy uned yn y De.
- Bod amseroedd aros hir am asesiadau i rai gwasanaethau – gyda mwy na 1,000 wedi bod yn aros mwy na hanner blwyddyn am asesiad niwroddatblygiadol.
Mae’r llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor, Lynne Neagle, hefyd yn galw am ymestyn y brif raglen o wasanaethau, CAMHS, i bobol hyd at 25 oed yn hytrach na 18 oed fel ar hyn o bryd.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:
“Rydym yn croesawu llythyr y Pwyllgor a’u diddordeb parhaus yn y maes hwn, a byddwn yn ymateb maes o law.
“Mae iechyd meddwl a llesiant plant a phobl ifanc yn flaenoriaeth hollbwysig ac rydym yn parhau i fuddsoddi cyllid ychwanegol i wella’r cymorth sydd ar gael, gan gynnwys trwy ein gwaith ar y dull gweithredu ysgol gyfan a gyda’r Rhaglen Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc”.