Mae angen deddf addysg Gymraeg er mwyn sicrhau bod cynghorau sir yn ehangu canolfannau iaith sy’n galluogi plant i gael addysg cyfrwng Cymraeg, meddai ymgyrchwyr iaith.
Mae canolfannau o’r fath, sy’n bodoli mewn sawl sir, yn trochi plant sy’n dod o’r tu allan i’r sir yn y Gymraeg, cyn eu dychwelyd i’w hysgolion lleol i dderbyn addysg Gymraeg.
Ond pryder Cymdeithas yr Iaith yw nad yw hi’n ofynnol i gynghorau sir gynnal canolfan yn eu sir nac agor mwy ohonyn nhw.
Mae ganddyn nhw hefyd bryder wrth i rai siroedd dorri yn ôl ar eu canolfannau iaith, gyda disgwyl i Gyngor Gwynedd gyflwyno toriadau i gyllideb y canolfannau o fis Medi ymlaen.
Trochi plant yn y Gymraeg
Bydd Cymdeithas yr Iaith yn cynnal rali ar faes y brifwyl yn Llanrwst heddiw (dydd Gwener, Awst 9), gyda’r Cynghorydd Aaron Wynne a’r rhiant, Annest Smith, ymhlith y siaradwyr.
“Drwy Ddeddf Addysg Gymraeg, gallwn ni sicrhau bod pob un sir yn dilyn yr arfer gorau yn y maes a bod buddsoddiad iddyn nhw allu cyflawni,” meddai Mabli Siriol o Gymdeithas yr Iaith.
“Y canolfannau yma yw’r un llwyddiant sydd wedi bod yng Nghymru o ran cynnwys plant mewnfudwyr – gan gadw ysgolion yn Gymraeg a rhoi chwarae teg a mynediad llawn at fywyd y cymunedau i’r mewnfudwyr.
“Maen nhw’n gwneud cyfraniad hollbwysig i greu siaradwyr Cymraeg hyderus tuag at y nod cenedlaethol o gyrraedd miliwn o siaradwyr.”