Mae ‘Brexitometer’ wedi cael ei osod ar faes yr Eisteddfod er mwyn mesur barn eisteddfodwyr am y syniad o adael yr Undeb Ewropeaidd.

Hyd yma, mae mwyafrif wedi dweud eu bod yn erbyn ac, yn ôl y gŵr sy’n gofalu am y mesurydd, Jason Edwards, mae gwrthwynebiad y Cymry Cymraeg yn cael ei “adlewyrchu” yn glir.

“Fel mae hwn yn dangos, mae yna deimlad cryf am Brexit,” meddai wrth golwg360. “Mae hynny’n enwedig ymysg y Cymry Cymraeg.

“Mae hwn jest yn mynd i brofi bod gan bobol lais. Ac mae’n codi ychydig bach o obaith mewn pobol bod rhywbeth yn medru cael ei wneud os dydyn nhw ddim eisiau Brexit.”

Y Brexitometer

Mae cyfres o gwestiynau wedi’u rhestru ar y ‘Brexitometer’ ac mae modd i’r cyhoedd osod sticeri yn y blychau sy’n adlewyrchu eu barn.

Bellach, mae blychau ychwanegol wedi cael eu gosod ar ochr yr holiadur gan fod cymaint wedi gosod sticeri yn y blychau gwrth-Brexit.

Mae Jason Edwards, ceidwaid y ‘Brexitometer’, hefyd yn ymgeisydd i’r Democratiaid Rhyddfrydol tros sedd Aberconwy yn etholiad San Steffan ac mae’r mesurydd wrth ochr uned y blaid.

Enghraifft o gwestiynau

  • Sut fydd gadael yr Undeb Ewropeaidd yn effeithio Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru?
  • Tair Blynedd yn ddiweddarach ydych chi eisiau Brexit?
  • Sut ddylen ni ddatrys y broblem Brexit?