Twm Elias o Nebo yw enillydd Medal Wyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod eleni am roi cyfraniad hyd-oes i wyddoniaeth drwy gyfrwng y Gymraeg.
Daw’r gwyddonwr a’r amgylcheddwr yn wreiddiol o Glynnog Fawr. Fe raddiodd mewn Llysieueg Amaethyddol ym Mhrifysgol Bangor cyn gwneud cwrs ol-radd yn yr un Brifysgol cyn.
Yna fe symundodd I Brifysgol Aberystwyth lle bu’n ymchwilio I’r amrywiaeth naturiol mewn gaeafgaledwch ymysg gweiriau a meillion o bob rhan o Gymru,
Yn dilyn daeth Twm Elis yn ddarlithydd maes ym Mhalas Tan y Bwclh, Canolfan Astudio Parc Cenedlaethol Eryri ble bun fel uwch ddarlithydd nes iddo ymddeol yn 2014.
Mae poblogeiddio byd natur, a sicrhau bod termau gwyddonol ar gael yn y Gymraeg yn rhywbeth sydd yn agos iawn at ei galon.
“Mae’n hollbwysig poblogeiddio byd natur a’r amgylchedd I ehangu gorwelion y Gymraeg,” meddai Twm Elias wrth golwg360.
“Os ydy’r iaith yn mynd I ddatblygu maen rhaid iddi ddatblygu ar bob ffrynt I bob cyfeiriad. I drin byd natur maen rhaid I ni gael yr eirfa a hefyd gwneud y pwnc yn boblogaidd.”
Natur yn Gymraeg
Bu Twm Elias yn rhan o banel Edward Llwyd wnaeth sicrhau fod enwau a termau Cymraeg yn cael cyflwyno ym myd natur. Roedd hefyd yn un o’r rhai wnaeth sefydlu’r rhaglen Galwad Cynnar, ac yn darlithio ar Gymraeg o fewn byd natur.
“Drwy Galwad Cynnar fues I’n trin a trafod byd natur a’r amgylchedd a does ‘na ddim rheglen tebyg I honno mewn ieithoedd eraill,” meddai Twm Elias.
“Roedd hi’n unigryw mwy ne lai yn trin a natur yn Gymraeg. Roedd hi mor rhwydd oherwydd bod y termau gennym ni a bob dim sydd yn gwneud o’n boblogaidd.
“A dyna ydi’r pwynt! Poblogeiddio’r byd natur a ‘chan!”
“Enwau lleol yn hwyl”
Mae Twm Elias yn cyfaddef bod ffraeo weithiau am dermau, ond mai darganfod yr un safanol ydy’r peth pwysig drwy cydweithrediad arbennigwyr pwnc ac arbenniwyr iaith.
“Mae yna enwau anhygoel. Dwi’n hoff o enw blanhigyn yr Efwr – sef planhugyn gwyn sydd yn tyfu yn y gwrychoedd. Ac mae ‘na un mawr, sef yr Efwr Enfawr, sydd yn enw bachog iawn dydi.
“Ond mae ‘na gymaint o enwau lleol da hefyd yn de. Fel ‘cacwn’, neu’r ‘bumble bee’.
“Wel yn y de mae gen ti’r bili bomen yn y de, cachgi-bwm yn ne Ceredigion a ballu ac mae cyfoeth enwau lleol yn hwyl de.”