Mae Heddlu’r Gogledd yn apelio am wybodaeth yn dilyn achos o daro a ffoi yn Wrecsam fis diwethaf.
Cafodd cerddwr ei daro o’r tu ôl ar ffordd A525 ar ddydd Mawrth, Gorffennaf 23, ond wnaeth y cerbyd ddim stopio yn dilyn y digwyddiad.
Fe dorrodd e asgwrn pont yr ysgwydd ac fe gafodd ei gleisio.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.