Mae Heddlu’r Gogledd yn apelio am wybodaeth a thystion yn dilyn gwrthdrawiad yn ardal Trelawnyd yn Sir y Fflint.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng beic a Vauxhall Astra lliw arian toc cyn 11 o’r gloch nos Sul (Awst 4), ar ffordd A5151.
Cafodd y beiciwr ei gludo i’r ysbyty yn Stoke, lle mae e’n derbyn triniaeth am anafiadau difrifol.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.