Mae troseddwr rhyw o Aberpennar sydd wedi bod yn byw ymhlith pobol ddigartref Brighton wedi cael ei garcharu am dair blynedd a phedwar mis.
Cafwyd hyd i Ian Campbell, 40, yn dilyn apêl Facebook, ac fe gafodd ei arestio ar ddiwrnod lansio’r apêl ym mis Ebrill ar fws dau lawr oedd wedi cael ei droi’n lloches.
Cafodd ei ryddhau gan y llys ar brawf ym mis Mehefin 2017, ond fe lwyddodd i ddianc rhag yr awdurdodau.
Fe fu’n defnyddio ffugenw, John Morgan, a phan gafodd e ei arestio, roedd ganddo fe ddwy ffôn symudol, tablet a chliniadur, yn groes i orchymyn oedd yn ei wahardd rhag cael mynediad i’r we.
Roedd ganddo fe luniau anweddus o blant ar sawl dyfais.
Cafodd ei garcharu ar Orffennaf 29, ar ôl pledio’n euog yn Llys y Goron Merthyr Tudful i gyhuddiadau o ddianc rhag yr awdurdodau, methu â chydymffurfio â gorchymyn, bod â delweddau anweddus yn ei feddiant a thwyll.