Mae dyn, 18, wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio yn dilyn ymosodiad difrifol ynghanol tref Wrecsam ddydd Sul (Awst 4).
Fe gafodd yr heddlu eu galw i Stryd y Coleg am tua 1.30yb yn sgil adroddiad am ddyn yn anymwybodol ger y grisiau sy’n arwain i Eglwys San Silyn.
Cafodd y dyn lleol, yn ei 30au, ei gludo i Ysbyty Stoke, ond bu farw yn ddiweddarach o’i anafiadau.
Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru, dydyn nhw ddim yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â’r digwyddiad.