Mae dyn, 25, wedi cael ei gyhuddo o achosi niwed corfforol difrifol yn dilyn ymosodiad ar blismon yn ardal Wrecsam dros y penwythnos.
Roedd swyddog o uned plismona’r ffyrdd yn ceisio arestio dyn ar Lon yr Ysgol, Glanrafon, pan ddigwyddodd yr ymosodiad toc cyn 8yh nos Sadwrn (Awst 3).
Cafodd y swyddog ei gludo wedyn i Ysbyty Wrecsam Maelor, lle mae’n parhau i dderbyn triniaeth.
Mae disgwyl i Meredydd Francis, o ardal Glanrafon, ymddangos gerbron Llys Ynadon Wrecsam heddiw (dydd Llun, Awst 5).