Fe fydd pob ymwelydd â thre’r Eisteddfod yn cael cynnig pasbort rhad ac am ddim i Fwrdeistref Rydd Llanrwst o heddiw ymlaen.
Mae’r pasborts yn rhan o brosiect celf amrywiol sy’n dathlu hanes y dref fel croesfan bwysig rhwng dwy deyrnas Gwynedd.
Mae elfennau eraill o’r prosiect yn cynnwys baneri’n darlunio Llywelyn Fawr, fforwm Agora ar y Maes, a’r enw ‘Llanrwst’ mewn llythrennau anferth ar y llethrau coediog gyferbyn â’r dref.
“Bydd Swyddogion Pasbort yn y dref ac ar Faes yr Eisteddfod drwy gydol wythnos yr Eisteddfod – ac mi fydd pasbort ar gael i bawb sy’n dymuno bod yn un o ddinasyddion Bwrdeistref Rydd Llanrwst,” meddai Iwan Williams, cynhyrchydd creadigol y prosiect celf.
Mae’r pasborts yn canolbwyntio’n benodol ar y dywediad ‘Cymru, Lloegr a Llanrwst’, y credir ei fod yn deillio o ddatganiad gan Lywelyn ap Gruffydd, Llywelyn ein Llyw Olaf, yn cydnabod y dref fel Bwrdeistref Rydd Annibynnol yn 1276.
Mae Cyngor y Dref wedi croesawu’n frwd y sylw i annibyniaeth Llanrwst.
“Gan nad oes unrhyw gofnod o ddileu’r statws hwnnw a roddwyd i’r dref gan Lywelyn ap Gruffydd, rydym yn falch o’i ail-gadarnhau,” meddai Maer y dref, Huw Prys Jones.
“Mae’r hanes cyfoethog yma’n ysbrydoliaeth i ni heddiw, gan fod dirfawr angen y fath annibyniaeth barn yn y dyddiau tymhestlog ac ansicr hyn.”
‘Cysgod dros yr Eisteddfod’
Ychwanegodd Huw Prys Jones fod gweithredoedd y llywodraeth newydd yn Llundain yn taflu cysgod dros y Brifwyl.
“Mae’r bygythiad cwbl ddiangen i fywoliaeth ein ffermwyr, asgwrn cefn ardaloedd gwledig Cymraeg fel Dyffryn Conwy, yn anfadwaith ac esgeulustod na ellir byth ei gyfiawnhau,” meddai.
“Lawn mor anghydnaws â’n diwylliant, hunaniaeth a’n gwerthoedd yw’r math gwrthnysig o genedlaetholdeb Seisnig y mae’r Prif Weinidog yn seilio’i holl apêl a’i weithredoedd arno.
“Wrth edrych yn ôl ar ymweliad diwethaf yr Eisteddfod â Llanrwst, rydym yn cofio 1989 fel blwyddyn o lawenhau drwy’r byd o weld diwedd y Rhyfel Oer a ffiniau’n chwalu ledled Ewrop yn dilyn cwymp mur Berlin.
Eleni, 30 mlynedd yn ddiweddarach, testun dicter yw gweld llywodraeth yn rhoi ei holl fryd ar godi ffiniau a chreu rhaniadau newydd ar ein cyfandir.
Taro’n ôl
“Yn wyneb y rhagfarnau Seisnig hyn, ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd ein hiaith a’n diwylliant fel arf i daro’n ôl yn erbyn y dilyw o bropaganda celwyddog gwrth-Ewropeaidd sy’n sicr o fod yn amlwg iawn dros yr wythnosau nesaf.
“Mae estyn croeso gwresog i bawb sy’n parchu ein diwylliant, beth bynnag fo’u cefndir, yn rhan greiddiol o’n gwerthoedd a’n gwladgarwch.
“Ac mae gan ddigwyddiadau fel yr Eisteddfod ran holl bwysig i’w chwarae wrth ddyrchafu’r gwerthoedd hyn.
“Gadewch inni i gyd fwynhau wythnos fythgofiadwy o ddathlu a mwynhau ein diwylliant a’n hunaniaeth.
“Boed i’r mwynhad hwnnw hefyd atgyfnerthu’n balchder yn ein gwerthoedd, a’n hysbrydoli o’r newydd i’w cynnal a’u harddel – waeth beth fo’r bygythiadau a all fod o’n blaenau.”