Mae hi’n “hwyr glas” cael holl farddoniaeth y diweddar Gwynfor ab Ifor ynghyd rhwng dau glawr, yn ôl cyd-brifardd iddo o Ddyffryn Ogwen sydd wedi mynd ati i olygu cyfrol.
Bu farw Gwynfor ab Ifor, a oedd yn wreiddiol o ardal y Sling, ym mis Hydref 2015, yn 61 oed.
Lai na deng mlynedd ynghynt, yn 2006, fe enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol Abertawe a’r Cylch am awdl ar y thema Tonnau, ond fe fu’n ffigwr amlwg yn y sin farddol Gymraeg ers yr 1970au.
Yn ôl y Prifardd Ieuan Wyn, a gafodd gymorth teulu Gwynfor ab Ifor wrth olygu Gwaddol (Cyhoeddiadau Barddas), roedd y bardd o’r Sling “wedi ei freintio â meddwl trosiadol”, ac roedd yn medru troi ei law at y dwys a digri.
“Roedd ganddo fo ddiddordeb mawr mewn athroniaeth a diwinyddiaeth,” meddai Ieuan Wyn wrth golwg360.
“Roedd o’n ddarllenwr eang, ac er nad oedd ganddo fo rhyw un byd-olwg neilltuol, mi roedd o yn ei gerddi yn medru cyffwrdd â gwahanol agweddau, agweddau weithiau oedd yn wrthgyferbyniol…
“Mae yna ganu natur rhyfeddol o ffres yma hefyd, ac mi roedd y fro a Dyffryn Ogwen a Chymru yn bwysig iawn iddo fo.”
Dyma glip o Ieuan Wyn yn darllen detholiad o’r awdl, ‘Meini’, a gyfansoddwyd gan Gwynfor ab Ifor yn yr 1970au pan oedd myfyrwyr yn ymgyrchu tros statws i’r Gymraeg o fewn Prifysgol Bangor…
Bydd Gwaddol yn cael ei lansio yn y Babell Lên ar faes Prifwyl Llanrwst am 1.30yp ddydd Sadwrn (Awst 3) yng nghwmni parti canu Hogia’r Bonc a’r actor John Ogwen.