Fe all porthladd yng Nghymru gael ei wneud yn ‘borthladd rhydd’ wedi Brexit, yn ôl cynlluniau gan Lywodraeth Prydain.
Mae ‘porthladdoedd rhydd’ yn ganolfannau sy’n cael eu hystyried yn ardaloedd annibynnol o fewn gwlad, lle nad oes rhaid codi treth na thollau ar nwyddau wedi eu mewnforio.
Mae Llywodraeth Prydain yn bwriadu creu deg canolfan o’r fath wedi Brexit, a bydd porthladdoedd a meysydd awyr ledled Prydain, gan gynnwys Aberdaugleddau yng Nghymru, yn cael y cyfle i ymgeisio am y statws o fod yn ‘rhydd’.
Yn ôl Yr Ysgrifennydd Masnach newydd, Liz Truss, bydd y model newydd yn “fynediad at ffyniant ein dyfodol”, ac yn creu “miloedd o swyddi newydd”.
Pryder am y cynllun
Mae’r cynllun arfaethedig wedi ei feirniadu gan aelodau’r Blaid Lafur, yn eu plith mae Aelod Seneddol Pontypridd, Owen Smith, sy’n dweud y bydd y canolfannau hyn “yn debygol o ddwyn swyddi oddi ar fusnesau sy’n talu trethi”.
Mae ganddo hefyd bryder y byddan nhw’n hwb i ladron sy’n dwyn darnau gwerthfawr o gelf.
“Dyw porthladdoedd rhydd ddim yn gwneud dim i ddatrys y gyfres o argyfyngau cyflenwi y mae [Brexit] ‘dim cytundeb’ yn mynd i’w greu,” meddai Owen Smith wrth bapur newydd The Guardian.
“Dyw porthladdoedd rhydd ddim yn ei gwneud hi’n haws neu’n gyflymach i gael meddyginiaethau, bwyd neu gemegau i mewn i’r wlad. Dyw porthladdoedd rhydd ddim yn datrys y problemau ar y ffin yng Ngogledd Iwerddon, nac yn atal nwyddau ar silffoedd ein marchnadoedd rhag cael eu taro gan drethi mewnforio.
“Mae porthladdoedd rhydd, fodd bynnag, yn cynnig cyfleoedd newydd i unrhyw un sydd am osgoi gwiriadau ar y ffin tra bo nhw’n storio nwyddau. Un diwydiant a all ffynnu yw storio ar gyfer lladron celf.”