Mae canlyniad is-etholiad Brycheiniog a Maesyfed yn dangos pa mor ddifrifol yw cyflwr y Blaid Lafur, meddai un o gyn-weinidogion Cymreig y blaid.
Roedd Kim Howells, cyn-Aelod Seneddol Pontypridd yn hallt ei feirniadaeth ar ôl i Lafur ddod yn agos at golli eu hernes yn y bleidlais ddoe.
“Mae’n ganlyniad trychinebus,” meddai ar raglen radio The World at One. “Mae’n ganlyniad cyn waethed ag y gallwch chi ei ddychmygu.”
Roedd y sedd, meddai, yn cynnwys hen ardaloedd glofaol [fel Ystradgynlais] a oedd yn arfer pleidleisio’n gadarn tros Lafur ond nawr doedden nhw brin yn gallu crafu 1,500.
“Di-glem”
Roedd ei brif feirniadaeth ar arweinyddiaeth Jeremy Corbyn – roedd yna deimlad cyffredinol yn y blaid, meddai, o “fod yn ddi-glem ac o ogordroi” ac roedd methiant Llafur i fanteisio ar drafferthion y Llywodraeth Geidwadol yn arwydd o pa mor “llwm” yw cyflwr y blaid.
Roedd hefyd yn feirniadol o’r Blaid Lafur yn y Cynulliad gan ddweud eu bod wedi “diflannu” heb ddim presenoldeb cyhoeddus.
“Mae’n rhaid i Lafur fod yn real,” meddai. “Mae’n iawn meddwl am sloganau ond dydi hynny ddim yn ennill etholiadau nac yn newid cymdeithas.”