Mae Pwyllgor Addysg y Cynulliad wedi cefnogi cynnig gan Aelodau Cynulliad i wneud taro plant yn anghyfreithlon yng Nghymru.

Os bydd y mesur yn cael ei gymeradwyo gan y Cynulliad, ni fydd hawl gan rieni i ddefnyddio “cosb resymol” fel amddiffyniad cyfreithiol os ydyn nhw’n cael eu cyhuddo o guro neu ymosod ar blentyn.

Cyn dod i’w casgliad, fe gynhaliodd y Pwyllgor Plant, Pobol Ifanc ac Addysg ymgynghoriad cyhoeddus a sesiynau tystiolaeth er mwyn clywed barn gwahanol gyrff, gan gynnwys yr heddlu, gwasanaethau cyhoeddus, meddygon a chynrychiolwyr athrawon.

Yn ôl y pwyllgor, roedd yna “safbwyntiau cryf” ar ddwy ochr y ddadl, ond mae yna “ddadl gref” y bydd y gyfraith newydd yn “lleihau’r risg o niwed posib i blant a phobol ifanc”.

Ond maen nhw’n argymell y dylai “ymgyrch eang” gael ei chynnal er mwyn codi ymwybyddiaeth am yr hyn fydd y gyfraith yn ei gwneud, ynghyd â sicrhau bod yna gefnogaeth ar gael i rieni ddelio â’r heriau a ddaw yn sgil magu plant.

Croesawu’r adroddiad

Yn ôl y Comisiynydd Plant Cymru, Sally Holland, sy’n croesawu adroddiad y pwyllgor, bydd y gyfraith newydd yn “newid ein hagwedd cymdeithasol at gosb gorfforol”.

“Dydy hi byth yn iawn i fwrw plentyn, ac mae astudiaethau diweddar yn dangos bod nifer y rhieni sy’n gyfforddus gyda chosb gorfforol yn lleihau.

“Ond heb ymgyrch cynhwysfawr i fynd gydag unrhyw ddeddfwriaeth newydd, mae risg y bydden ni’n colli’r cyfle i helpu a chefnogi rhieni o bob cefndir i drio ffyrdd newydd, positif o osod rheolau a ffiniau sydd ddim yn achosi niwed hirdymor i blant.”