Mae’n “drueni” nad yw Gorsedd y Beirdd am fod yn rhan o arwisgiad arall, yn ôl y gyflwynwraig Amanda Protheroe-Thomas sy’n gefnogol o waith y Tywysog Charles.
Mae Archdderwydd Cymru, Myrddin ap Dafydd, wedi dweud na fydd aelodau’r Orsedd yn rhan o arwisgiad arall, er iddi chwarae rhan ganolog yn y seremoni yng Nghastell Caernarfon yn 1969.
“Er bo fi’n meddwl y buasai fe’n dda iddyn nhw gymryd rhan, ac iddyn nhw fod yn rhan o fywyd Cymru, dw i ddim yn gwybod sut fydd Cymru yn ymateb i hynny,” meddai Amanda Protheroe-Thomas wrth golwg360.
“Y broblem yw, dw i’n credu, mae pobol yn dal dig am ba bynnag rheswm sydd gyda nhw.
“Ond, ar ddiwedd y dydd, mae pobol fel Prince Charles wedi codi shwd gymaint o arian yn y Prince’s Trust. Sa i’n credu eu bod nhw’n sylweddoli faint o arian.
“Rydyn ni hefyd yn elwa o’r holl arian mae’r teulu brenhinol yn dod i mewn i Brydain.”
Dysgu Cymraeg
Fe gafodd y Frenhines ei hurddo’n aelod o’r Orsedd yn 1946, ond yn sgil newid i reol iaith y sefydliad yn 2006, dyw hi ddim yn aelod bellach.
Ac yn ôl Amanda Protheroe-Thomas, sydd bellach yn byw a gweithio yn Llundain, fe ddylai’r Frenhines a’i thylwyth “wneud mwy” i goleddu’r iaith Gymraeg a’i diwylliant.
“Dyle’r teulu brenhinol fod wedi gwneud [dysgu Cymraeg] yn rhyw fath o reol,” meddai wrth golwg360, gan gyfeirio yn bennaf at y Tywysog William sydd, yn wahanol i’w dad, heb gael yr un wers Gymraeg.
“Mae hi’n iaith anodd ac, wrth gwrs, byse fe ond yn ei defnyddio pan mae yng Nghymru, ond jyst bod yna fraslun gydag e, jyst fel sydd gyda Charles,” meddai Amanda Protheroe-Thomas.
“Beth yw iaith arall [i’r Tywysog William]? Os yw e’n mynd i fod yn Dywysog Cymru, dyle fe fod wedi cael ei ddysgu. Yn rhan o’i addysg, dyle nhw fod wedi dweud: ‘reit, mae’n rhaid iddo fe siarad Cymraeg.
“Bydde hwnna jyst wedi gwneud shwd gymaint o wahaniaeth.”