Mae Heddlu’r De yn apelio am wybodaeth yn dilyn diflaniad bachgen 14 oed o ardal Castell-nedd.
Does neb wedi gweld Ciaran Carmody o ardal Cymer ers tua 12.50 brynhawn dydd Sadwrn (Gorffennaf 27).
Mae lle i gredu y gallai fod wedi teithio i Gaerdydd neu i Gasnewydd.
Mae ganddo wallt brown ac mae e’n 5’1” o daldra.
Roedd yn gwisgo trowsus Nike llwyd, top hwdi du o wneuthuriad Nike ac esgidiau du pan gafodd ei weld ddiwethaf.