Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Delyth Jewell, yn galw am ymchwiliad i sut mae’r Prif Weinidog wedi torri rheolau etholiadol o flaen is-etholiad Aberhonddu.

Yn ôl Gweinidog Cysylltiadau Rhyngwladol Cysgodol y blaid mae Boris Johnson wedi mynd yn erbyn Purdah – sy’n gosod y set o reolau sydd yn rhaid ei dilyn mewn etholiadau.

Fe gyhoeddodd Boris Johnson ddoe (dydd Mawrth, Gorffennaf 30) y bydd cyllid o £300m yn mynd i Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Mae’r cyllid hwnnw yn cynnwys Bargen Twf Canolbarth Cymru, sy’n cynnwys Aberhonddu a Sir Faesyfed, ac mae hyn yn enghraifft glir o sut mae rheolau Purdah wedi cael eu torri, meddai Delyth Jewell.

Mae Purdah yn nodi na ddylai canghennau’r Llywodraeth ddefnyddio adnoddau cyhoeddus mewn ffordd sy’n ceisio hyrwyddo buddiannau gwleidyddol plaid yn ystod cyfnod o etholiad.

“Ymchwiliad ar unwaith”

Mae Delyth Jewell nawr wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd Cabinet Gwledydd Prydain, Mark Sedwill, yn honni fod hyn yn mynd yn erbyn Purdah.

“Rwy’n amau bod gweithredoedd y Prif Weinidog ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn gyfystyr â thorri’r Cod Gweinidogol ac y gallai’r gwasanaeth sifil felly dorri rheolau Purdah,” meddai Delyth Jewell.

“Rwyf yn gofyn am gynnal ymchwiliad ar unwaith i weld a yw rheolau Purdah wedi cael eu torri… mae hyn yn enghraifft amlwg o geisio cael effaith ar yr etholiad”

Mae Delyth Jewell yn honni y gall y gwasanaeth sifil fod yn gyfrifol am dorri rheolau Purdah wrth gynnal gwaith yn gysylltiedig â chyhoeddi’r cyllid ar ran y Llywodraethv fod hyn yn enghraifft amlwg o geisio cael effaith ar yr etholiad

“Rwyf eisiau gweld ymchwil yn syth ar faint o adnoddau cyhoeddus a wariwyd ar y cyhoeddiad a ymgynghorwyd â thîm moeseg a phriodoldeb Swyddfa’r Cabinet ymlaen llaw.”

Mater i’r Ysgrifennydd Cabinet

Mewn ymateb i Blaid Cymru mae llefarydd ar ran Llywodraeth gwledydd Prydain yn nodi fod y cyllid £300m ar gyfer Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

“Roedd hyn yn cynnwys mwy o arian ar gael ar gyfer pob bargen twf, yn dilyn cyhoeddiad am gyllid ledled Lloegr.

“Roedd y cyhoeddiad yn cynnwys cyfeiriadau at fargeinion presennol, fel yr un ar gyfer Canolbarth Cymru, ac nid oedd yn benodol i unrhyw etholaeth, gan gynnwys lle mae’r isetholiad yn digwydd.”

Yn ôl Plaid Cymru, ffaith sy’n rhaid nodi yma yw mai’r Prif Weinidog sydd fod i gadw golwg ar Purdah, ond yr Ysgrifennydd Cabinet sydd yn edrych os oes rheolau wedi eu torri, felly fe fydd hi fyny i Mark Sedwill os oes ymchwiliad.