Mae dyn oedd yn wynebu cyhuddiadau o fod â chyffuriau yn ei feddiant ac a gafodd ei ddal yn dosbarthu trwy luniau o’i dashcam ei hun yn ddiweddarach, wedi cael ei garcharu.
Roedd Scott Curtis, 45 oed o Aberdâr, yn wynebu’r cyhuddiadau cyn i’r heddlu ei weld yn y deunydd camera yn cyflenwi cyffuriau ar ei ffôn ac i bobol oedd yn cerdded heibio ar yr A4059 yn ardal Aberpennar ar Fedi 6, 2018.
Wrth i’r heddlu fynd ato, fe daflodd e fagiau o gocên a heroin allan o ffenest ei gar ac fe ddaeth yr heddlu o hyd i blanhigion canabis yn ei gartref.
Ar ôl pledio’n euog yn Llys y Goron Merthyr i fod â chocên yn ei feddiant ac o fod â heroin yn ei feddiant gyda’r bwriad o gyflenwi, cafodd ei garcharu am ddwy flynedd a hanner.