Fe fu’n rhaid i berchnogion siop, cwsmeriaid, a thrigolion fod yn gyflym ar eu traed ym Mhwllheli, ganol dydd ddoe (dydd Mawrth, Gorffennaf 30) wrth i law trwm achosi llifogydd sydyn yn y dref.

Fe ddechreuodd y glawio tuag amser cinio cyn i’r lonydd droi’n afonydd a’r maes parcio yn llyn.

“Roedd o’n ofnadwy, dw’i erioed wedi gweld ffasiwn beth yn fa’ma erioed!” meddai rheolwr siop Glasu Hufen Ia, Nan Williams, wrth golwg360.

“Wnaeth o drwy’r caffi a wnaeth o ddifrod ar diawl. Aeth y lectrics i ffwrdd, ddaeth y dŵr dros y cefn, ac roedd o fyny at ein ankles ni.

Mae siop Glasu Hufen Ia wedi ei leoli ar Mitre Place, i fyny’r lôn o’r maes y dref, mae’n ardal agored a fuodd y dŵr yn llifo lawr yn heb ddiwedd am ddwy awr gyfan.

“Roedd o jest fel afon yn dod lawr, mae dŵr yn gynt ‘na ni dydi, felly roedd o’n amhosib ei stopio fo. Mae o wedi gwneud difrod de… mae’r soffas yma wedi’i difetha” meddai Nan Williams.

“Roedd y Cyngor yn helpu ni i sgubor dŵr ac roeddan nhw’n anhygoel o dda. Rydan ni wedi agor heddiw, mae’n rhaid i ni… achos hwn di’n adeg prysuraf ni yn y flwyddyn.”

Mecryll yn dod fyny’r afon

Cafodd siop Cigyddion Pwllheli, ar y Maes, brofiad gwahanol yn y glaw mawr, ac mi fuon nhw’n lwcus i beidio â chael difrod i’w siop.

Yn hytrach, roedd digon o hwyl i gael yn y glaw, meddai Ifor Hughes, perchennog y sioe, wrth iddo ddweud yn gellweirus wrth golwg360 bod “mecryll yn dod fyny’r afon”.

Mae fideo ar eu gwefan Facebook yn dangos Ifor Hughes yn “dal macrell” o flaen y siop. “Gaethon ni hwyl de, rhaid chdi ddeud!” meddai.

“Ond go iawn, weles i ddim glaw felna am flynyddoedd de, roedd o’n ddi-stop ac yn tresho, mae ‘na lond llaw o siopa di cael eu difrodi.”

“Chafon ni ddim difrod, ond wnaethon ddim gweld neb am ryw ddwy awr – oddi fel afon ac wedyn roedd ’na lyn wedi ymddangos ar y maes,” meddai Ifor Hughes.

Mae’n ymddangos bod ambell siop wedi cael trafferthion oherwydd y glaw trwm yn y dref gan gynnwys Glasu Hufen Ia, Sbar, a Pen Llyn Cycle.

Dyma fideo o Ifor Hughes yn dal ei facrell fyw:

Don’t come much fresher than this! ??

Posted by Cigyddion pwllheli butchers on Tuesday, 30 July 2019