Cafodd mater annibyniaeth ei drafod yn y cyfarfod ffurfiol cyntaf rhwng Mark Drakeford, prif weinidog Cymru, a Boris Johnson, prif weinidog newydd Prydain ddoe (dydd Mawrth, Gorffennaf 30).
Yn ôl Mark Drakeford, fu’n siarad ar raglen Post Cyntaf ar Radio Cymru heddiw (dydd Mercher, Gorffennaf 31) roedd “rhaid” iddo fe godi’r mater oherwydd y peryg y gallai’r Alban fynd yn annibynnol, a helynt y ffin rhwng Iwerddon a Gogledd Iwerddon.
Daeth y drafodaeth ychydig ddiwrnodau’n unig ar ôl gorymdaith fawr tros annibyniaeth yng Nghaernarfon, lle’r oedd Brexit a dyfodol gwledydd Prydain yn un o’r prif bynciau trafod ymhlith y siaradwyr.
“Roedd rhaid i fi godi’r pwnc ’na gyda fe oherwydd y sefyllfa yn yr Alban, y sefyllfa yng Ngogledd Iwerddon ac ynys Iwerddon,” meddai’r prif weinidog.
‘Mae pethau yn y Deyrnas Unedig wedi newid’
“Mae pethau yn y Deyrnas Unedig wedi newid ac mae Brexit wedi creu mwy o drafodaethau am ddyfodol y Deyrnas Unedig.
“Dyna pam o’n i’n dweud wrth fe, bydd rhaid iddo fe helpu i feddwl am newid sut mae pethau wedi cael eu rhedeg yn y gorffennol, achos fydd hynny ddim yn ddigon cryf i helpu ni i gadw’r Deyrnas Unedig yn llwyddiannus ar ôl Brexit.
“Dw i’n meddwl bod annibyniaeth wedi codi yn y trafodaethau cyhoeddus ac mae pobol yn meddwl fwy am annibyniaeth.
“Dywedais i hynna wrtho fe ac, wrth gwrs, roedd e wedi dod lawr o’r Alban ble mae annibyniaeth ar dop yr agenda, ac fe ddywedais i wrtho fe bod mwy o ddiddordeb, bod mwy o sgwrs ynghylch annibyniaeth.
“Wrth gwrs, pobol sy’n cefnogi annibyniaeth yma yng Nghymru, lan iddyn nhw fydd e i esbonio i bobol sut mae hynny’n mynd i weithio ac ateb nifer fawr o gwestiynau difrifol.
“Ac i bobol fel fi sydd eisiau gweld Cymru ddatganoledig gref ond hefyd dyfodol i Gymru mewn Teyrnas Unedig lwyddiannus, dyna’r sefyllfa fydd rhaid i fi esbonio i bobol.”