Ludo - dathlu neu foddi tristwch? (o'i safle facebook)
Mae cwpwl o Gastell Newydd Emlyn wedi penderfynu y bydd rhaid iddyn nhw fod ar wahân i wylio’r gêm fawr ddydd Sadwrn.
Fel arall, medden nhw, mae peryg i gefnogi droi’n gwmpo mas wrth wylio Cymru a Ffrainc yng Nghwpan y Byd.
Mae’r rheswm yn syml, mae’r cogydd Ludo Dieumegard yn Llydawr sy’n cefnogi Ffrainc a’i bartner Lowri Jones yn Gymraes i’r carn.
Peryg o gwmpo mas!
Fel rheol, mae’r ddau’n ddigon cytûn wrth redeg bwyty Ludo’s yng Nghastellnewydd Emlyn ond fe fydd yr entente cordiale yn diflannu fore Sadwrn.
“Falle fydde bach gormod o gwmpo mas se’ ni ’da’n gilydd!” meddai Lowri Jones, sydd yn bwriadu gwylio’r gêm gartref gyda’u merch fach, Ella, tra bod Ludo Dieumegard yn bwriadu mentro allan i un o dafarndai’r dref ar gyfer y chwiban cyntaf am 9am.
Ac megis dechrau y mae’r ddadl dros bwy fydd Ella yn eu cefnogi … “Pwy bynnag sy’n ennill!” yw ateb Ludo wrth glywed y cwestiwn, ac mae Lowri yn hanner cytuno ond yn cyfadde’ mai hi yw’r un mwyaf brwd dros y rygbi o’r ddau ohonyn nhw.
Crys-T-chwith-allan
“Roedden ni yn nhŷ brawd Ludo yn Llydaw pan oedd Cymru’n chwarae Ffrainc o’r blaen,” meddai Lowri, “ac roedd Ludo’n gwisgo’i grys-T ‘Cowbois’ gyda Je suis gallois arno fe…
“Pan oedden ni’n ennill roedd popeth yn iawn, oedd e’n falch iawn yn ei grys… ond pan ddechreuodd Cymru golli fe droiodd e’r crys-T inside-out! Fi’n credu mai fair weather fan yw Ludo!”
Mae’r anghytuno wedi dechrau eisoes … tros bwy fydd yn ennill ddydd Sadwrn.
Yn ôl Lowri Jones, mae “Cymru’n bendant yn mynd i ennill” – er nad yw hi’n ddigon dewr i ddarogan y sgôr.