Mike Dye
Dim ond un papur lleol sydd wedi cael caniatâd i fynd i angladd cefnogwr pêl-droed a gafodd ei ladd cyn gêm ryngwladol yn erbyn Lloegr.
Roedd teulu Mike Dye wedi cwyno am y sylw a gafodd ei farwolaeth gan rai bapurau Llundeinig, yn arbennig y Sun a’r Daily Mail.
Maen nhw a chlwb Dinas Caerdydd wedi cyflwyno cwynion swyddogol i Gomisiwn Cwynion y Wasg ar ôl i’r papurau dynnu sylw at gefndir y dyn 44 oed a gafodd ei ladd cyn gêm Cymru yn erbyn Lloegr yn Wembley ddechrau mis Medi.
Ar y dechrau, fe gafodd nifer o gefnogwyr Cymru eu holi gan yr heddlu ond, erbyn hyn, mae un dyn o ganolbarth Lloegr wedi ei gyhuddo o ddynladdiad a deg o gefnogwyr eraill o Loegr wedi eu holi.
Mae’r Cymry wedi cael clywed na fydd unrhyw weithredu pellach yn eu herbyn nhw.
Dim croeso i’r wasg
Fe fydd yr angladd yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd ac fe ddywedodd Heddlu De Cymru heddiw fod y teulu wedi gofyn i’r wasg gadw draw – heblaw am y South Wales Echo.
Fe fydd gwylnos yn cael ei chynnal hefyd yn Stadiwm Dinas Caerdydd – roedd Mike Dye’n un o gefnogwyr seloca’r clwb ac yn saer maen gyda Chyngor Dinas Caerdydd.
Fe gynhaliodd cefnogwyr Caerdydd gêm yn erbyn cefnogwyr eu hen elynion, Abertawe, er cof amdano.