James Hook - i mewn i gael ei 58fed cap
James Hook fydd yng nghrys y maswr ar gyfer rownd gynderfynol Cwpan y Byd yn erbyn Ffrainc.

Dyna’r unig newid yn y tîm a gurodd Iwerddon yn rownd yr wyth ola’, wrth i ysgwydd Rhys Priestland fethu â gwella mewn pryd.

Mae’n golygu hefyd y bydd Stephen Jones ar y fainc, gyda chyfle i ychwanegu at y 102 o gapiau sydd ganddo eisoes.

Roedd hi’n glir ers rhai dyddiau fod Priestland mewn trafferth ac, er fod yr anaf wedi gwella rhywfaint, doedd yr hyfforddwyr ddim am ei fentro.

Meddai Gatland

“Roedd amser yn erbyn Rhys,” meddai Warren Gatland. “Ond r’yn ni’n hapus fod gyda ni’r dalent a’r gallu mewn rhannau eraill o’r garfan i wneud yn iawn amdano.

“Mae Rhys wedi gwneud popeth yr ydyn ni wedi gofyn iddo – a rhagor – yn ystod Cwpan y Byd ond gyda chwaraewyr o safon a phrofiad James Hook a Stephen Jones yn dod i mewn i’r garfan a’r tîm, does dim teimlad fod absenoldeb Rhys yn ein gwanhau.”

Fe rybuddiodd Warren Gatland hefyd fod rhaid i’r chwaraewyr anwybyddu’r holl gyffro o amgylch y rownd gynderfynol.

Roedd rhaid iddyn nhw ganolbwyntio’n llwyr ar guro Ffrainc ddydd Sadwrn,meddai. Dim ond os byddan nhw’n ennill y ddwy gêm nesa’ y byddan nhw’n dechrau dathlu.

Mae yna gyffro mawr yn Seland Newydd hefyd, gyda channoedd o newyddiadurwyr bellach yn y gynhadledd i’r wasg i gyhoeddi’r tîm.

Tîm Cymru

Olwyr

Leigh Halfpenny; George North, Jonathan Davies, Jamie Roberts, Shane Williams.

Haneri

James Hook, Mike Phillips.

Blaenwyr

Gethin Jenkins, Huw Bennett, Adam Jones, Luke Charteris, Alun Wyn Jones, Dan Lydiate, Sam Warburton (C), Toby Faletau

Eilyddion

Lloyd Burns, Paul James, Bradley Davies, Ryan Jones, Lloyd Williams, Stephen Jones, Scott Williams.