Mae dyn, 20, wedi marw ar ôl iddo fynd i drafferthion yn y dŵr ger rhaeadr yn ardal Pontneddfechan ger Glyn-nedd yr wythnos ddiwethaf.

Cafodd yr heddlu, ynghyd â’r gwasanaeth tân a pharafeddygon, eu galw i’r lleoliad yn ardal Cwm Nedd ddydd Mercher (Gorffennaf 24).

Cafodd y dyn o Ben-y-bont ar Ogwr ei gludo yn syth i Ysbyty Athrofaol Cymru lle bu farw’r diwrnod canlynol.

Yn ôl Heddlu Dyfed-Powys, dydyn nhw ddim yn trin y farwolaeth fel un amheus.

Mae teulu’r dyn a’r crwner wedi cael eu hysbysu ynglŷn â’r digwyddiad, meddai’r heddlu ymhellach.