Mae dros £3,000 wedi cael ei godi ar gyfer hen fugail a gafodd ei daro yn ei wyneb yn ystod wythnos y Sioe Fawr yn Llanelwedd.
Cafodd Islwyn Jones, 76, ei ganfod yn gorwedd mewn llwyn ar ddydd Mercher (Gorffennaf 24) ar ôl iddo gael ei dargedu gan ladron wrth adael y toiledau mewn gwersyll ger Maes y Sioe y noson gynt.
Fe dderbyniodd fân anafiadau o ganlyniad i’r ymosodiad ac mae Heddlu Dyfed-Powys ar hyn o bryd yn apelio am dystion i’r digwyddiad rhwng 11yh a hanner nos, nos Fercher.
Beirniadu’r Sioe Fawr
Yn ôl y gronfa ar-lein a sefydlwyd gan Wendy Evans Harries, cyfaill i Islwyn Jones, fe gafodd yr hen ffermwr wythnos anlwcus wedi i’r awdurdodau feddiannu ei gerbyd gan nad oedd ganddo MOT.
Mae sawl unigolyn ar y cyfryngau cymdeithasol hefyd wedi beirniadu trefnwyr y Sioe Fawr am sut y gwnaethon nhw ymateb i’r ymosodiad, gyda rhai’n codi cwestiynau ynghylch safon y diogelwch.
Ond mewn datganiad, dywed Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru iddyn nhw ymateb yn “brydlon” i’r digwyddiad, cyn mynd ymlaen – mewn datganiad arall – i amddiffyn eu henw da yn wyneb y feirniadaeth ar-lein.
“Nid arolygwyr yw staff y Sioe Fawr ac mae’n rhaid inni drosglwyddo materion o’r fath i ddwylo’r arbenigwyr,” meddai’r trefnwyr.
“Fe fyddwn ni’n adolygu’r amgylchiadau er mwyn sicrhau bod gwersi yn cael eu dysgu. Ond, ar hyn o bryd, mae ein meddyliau gydag Islwyn.”