Mae dyn 71 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru’n beryglus ar ôl i yrrwr beic modur gael ei ladd mewn gwrthdrawiad a char yn Sir Fynwy ddoe (dydd Sul, Gorffennaf 28).
Cafodd yr heddlu eu galw i wrthdrawiad difrifol rhwng car Range Rover Sport glas a beic modur Honda ar yr A4042 ger Llanofer tua 3.35 prynhawn dydd Sul.
Bu farw gyrrwr y beic modur yn y fan a’r lle. Cafodd gyrrwr y Range Rover ei arestio ar amheuaeth o yrru’n beryglus cyn cael ei ryddhau o dan ymchwiliad.
Mae’r heddlu yn apelio ar unrhyw dystion oedd ar y lon tua’r un amser neu unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â Heddlu Gwent ar 101 gan ddyfynnu’r cyfeirnod 388 a’r dyddiad 28/07/19.