Mae Llywodraeth Cymru yn lansio ymgynghoriad heddiw (dydd Llun, Gorffennaf 29) i edrych ar ganllawiau newydd yn ymwneud ag addysg yn y cartref yng Nghymru.

Yn ôl y canllawiau drafft mae angen i awdurdodau lleol ddod o hyd i blant sydd ddim yn cael addysg yn yr ysgol, a rhoi cyngor ar ba mor addas yw addysg yn y cartref iddyn nhw.

Dywed y canllawiau bod angen i blant gael eu gweld unwaith y flwyddyn fel rhan o’r asesiad i weld pa mor addas yw’r addysg.

Mae’n egluro hefyd y cymorth ddylai fod ar gael gan awdurdodau lleol i bobol sy’n addysgu yn y cartref un eu hardal.

Cyngor a chymorth

Bydd llawlyfr yn cael ei ddatblygu gyda chyngor a chymorth i bobol sy’n darparu addysg yn y cartref ar hyn o bryd, neu sy’n ystyried gwneud.

“Bydd y canllawiau statudol yn helpu awdurdodau lleol i gefnogi teuluoedd sy’n penderfynu addysgu eu plant gartref, ac yn cryfhau’r mecanwaith sydd ar gael i awdurdodau lleol pan na fo’r addysg sy’n cael ei darparu yn briodol,” meddai’r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams.

“Y brif flaenoriaeth yw sicrhau’r deilliannau gorau i blant a phobl ifanc sy’n cael eu haddysgu yn y cartref drwy ddatblygu partneriaethau adeiladol rhwng yr aelwydydd hynny lle darperir addysg yn y cartref ac awdurdodau lleol.

“Mae’r ymgynghoriad yn gyfle i bawb ddweud eu dweud a’n helpu i sicrhau bod y dull gweithredu hwn yn rhesymol a chymesur.”