Mae’r arian y mae Cymru yn ei godi trwy drethi a faint mae hi’n ei chael yn ôl wedi agosau dros y tair blynedd diwethaf, yn ôl ymchwil Canolfan Llywodraethiant Cymru.
Mae hyn yn golygu bod Cymru yn codi llai o arian nag y mae’n ei dderbyn gan Drysorlys gwledydd Prydain.
Fe edrychodd y ganolfan ar ffigurau diweddar y Swyddfa Ystadegau Gwladol i ddadansoddi ar flynyddoedd o wariant a refeniw cyhoeddus Cymru.
Yn ôl y canlyniadau mae gwariant cyhoeddus wedi gostwng yng Nghymru o £14.7bn – sef 24% o Gynnyrch Domestig Gros, i’r ffigur presennol o £13.7bn – sef 19.4% o Gynnyrch Domestig Gros.
Mae’r ffigwr hwn yn cymharu â diffyg gwariant o 2% o Gynnyrch Domestig Gros ar gyfer gwledydd Prydain gyfan.
Dywed yr adroddiad bod Sylfaen trethu Cymru yn wahanol i wledydd Prydain. Mae 4.7% o boblogaeth y Deyrnas Gyfunol yn byw yng Nghymru ond dim ond 3.6% o arian trethi’r Deyrnas Unedig sy’n dod o Gymru
“Ffactorau hanesyddol”
“Mae adroddiad heddiw yn rhoi darlun cynhwysfawr o gyflwr cyllid cyhoeddus Cymru, a bydd yn werthfawr dros ben i lunwyr polisïau sy’n wynebu cwestiynau pwysig am ein dyfodol cyfansoddiadol yn ogystal ag effaith Brexit,” meddai Dr Ed Gareth Poole, arweinydd academaidd prosiect Dadansoddiad Ariannol Cymru.
“Tra bod y canlyniadau hynny’n seiliedig ar amcangyfrifon y Swyddfa Ystadegau Gwladol, nid oes cuddio rhag y ffaith bod ffactorau hanesyddol wedi arwain at economi a sylfaen trethi yng Nghymru sy’n wannach o lawer na’r Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd.
“Yn ôl y ffigurau, mae pob un o wledydd a rhanbarthau’r Deyrnas Unedig y tu allan i Lundain a’i chymdogion uniongyrchol mewn diffyg ariannol, ac mae gan Gymru’r diffyg mwyaf ond un fesul person ar ôl Gogledd Iwerddon.”
Ers 2009-10 mae gwariant wedi gostwng dros 10%, ac mae gwariant y pen yn dal i fod 4.2% yn is na’r lefel uchaf yn 2011-12.
Ar lefel rhyngwladol, mae’r gwariant yng Nghymru’r pen yn cyd-fynd a’r cyfartaledd mewn gwledydd datblygedig, tra mae’n sylweddol is na gwledydd datblygedig.