Mae Mick Antoniw, yr Aelod Cynulliad Llafur, yn dweud ei fod yn disgwyl i Gymru fod yn wlad annibynnol yn ystod ei fywyd, am na “all neb ddweud beth yw pwrpas y Deyrnas Unedig”.
Fe fu Aelod Cynulliad Pontypridd yn trafod mater annibyniaeth ar raglen Sunday Supplement BBC Radio Wales, drannoeth gorymdaith fawr tros annibyniaeth yng Nghaernarfon a ddenodd filoedd o bobol.
Mae’n dweud y bydd y blynyddoedd nesaf yn allweddol i’r ymgyrch yng Nghymru.
Ond mae Mark Drakeford, arweinydd ei blaid, eisoes wedi datgan ei gefnogaeth “ddigamsyniol” i’r undeb, yn groes i’r awgrym ei fod yn cadw meddwl agored.
Barn Mick Antoniw
Yn ôl Mick Antoniw, fu ganddo fe “erioed broblem â mater annibyniaeth”, a bod hunan-reolaeth a datganoli “wrth galon” ei wleidyddiaeth.
Ac mae’n dweud bod mater Brexit wedi tynnu sylw at ddyfodol y Deyrnas Unedig.
Mae’n dweud bod yr ymadawiad wedi “dangos llinellau’r rhwyg yng nghyfansoddiad y Deyrnas Unedig” fel na “all neb ddweud beth yw pwrpas y Deyrnas Unedig”.