Mae dynes 19 oed o wledydd Prydain sy’n honni iddi gael ei threisio ar ynys Cyprus wedi cael ei harestio.
Fe fu saith o lanciau o Israel yn y ddalfa mewn perthynas â’r honiadau am ddigwyddiad yn Ayia Napa, ond fe fyddan nhw bellach yn cael mynd yn rhydd.
Mae’r ddynes yn wynebu cyhuddiad o fod yn niwsans cyhoeddus, wrth i erlynwyr ddweud nad yw ei honiadau’n “dal dŵr”.
Roedd yr awdurdodau’n chwilio am dri unigolyn ar ôl i samplau DNA gael eu rhoi, ond dydy’r heddlu ddim yn chwilio amdanyn nhw erbyn hyn.
Cafodd 12 o lanciau o Israel eu harestio ar Orffennaf 18, a chafodd pump ohonyn nhw eu rhyddhau ddydd Iau (Gorffennaf 25).