Mae Heddlu’r De yn ymchwilio i wrthdrawiad difrifol rhwng car a seiclwr ar ffordd A4063 rhwng Llangynwyd a Goetre-hen.
Cafodd yr heddlu eu galw i’r digwyddiad rhwng seiclwr a char Vauxhall Corsa ger Pen-y-bont ar Ogwr am oddeutu 2.50 fore heddiw (dydd Sul, Gorffennaf 28).
Cafodd y seiclwr ei gludo i Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr ag anafiadau difrifol.
Mae gyrrwr y Vauxhall Corsa yn cynorthwyo’r heddlu â’u hymchwiliad.
Mae’r heddlu’n apelio am dystion, a dylai unrhyw un â gwybodaeth eu ffonio nhw ar 101.