Mae un o newyddiadurwyr BBC Cymru wedi cael ei benodi’n Gyfarwyddwr Strategaeth Plaid Cymru.
Mae Aled ap Dafydd yn Brif Ohebydd Newyddion 9 ar S4C, ac wedi treulio dros ddau ddegawd yn gweithio i’r Gorfforaeth. Dechreuodd ei yrfa yn ohebydd chwaraeon, cyn troi at ohebu gwleidyddol.
Yn ei swydd newydd yn ‘Gyfarwyddwr Strategaeth Wleidyddol a Chysylltiadau Allanol’ fe fydd yn cydweithio ag aelodau etholedig Plaid Cymru, y Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol, a’u tîm staff.
“Cyfraniad pwysig”
“Rwy’n hapus dros ben fod Aled yn ymuno â ni yn y swydd allweddol, newydd hon…” meddai arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
“Bydd ganddo gyfraniad pwysig i’w wneud i gyflawni ein gwaith a chadw’r momentwm i fynd fel bo Plaid Cymru’n ffurfio’r llywodraeth nesaf – rhywbeth sydd ei angen yn arw ar Gymru.”
Eisiau ffurfio llywodraeth
“Mae Plaid Cymru mewn sefyllfa gref ac rydym ar y ffordd i ffurfio’r llywodraeth nesaf,” meddai Cadeirydd Plaid Cymru, Alun Ffred Jones.
“Bydd Aled yn chwarae rhan allweddol wrth lywio ein strategaeth wleidyddol a’n negeseuon cyn yr etholiad. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr iawn at ei groesawu i’r tîm ar ôl yr haf.”