Mae Heddlu’r De yn apelio am dystion wedi gwrthdrawiad angheuol yng Nghaerdydd neithiwr (nos Iau, Gorffennaf 25).
Bu farw gyrrwr y car, Jaguar XKR lliw llwyd, yn y gwrthdrawiad ar Heol y Gadeirlan ym Mhontcanna tua 5.45pm neithiwr.
Mae’n debyg ei fod wedi taro nifer o gerbydau eraill yn ystod y gwrthdrawiad.
Mae swyddog cyswllt arbenigol yn rhoi cymorth i’w deulu.
Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod yn awyddus i siarad gydag unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad neu a oedd wedi stopio i helpu, neu a welodd y car yn cael ei yrru cyn y gwrthdrawiad.
Bu’r ffordd ynghau am bedair awr wrth i’r heddlu ymchwilio i’r digwyddiad.
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101 gan nodi’r cyfeirnod 1900272359.