Bydd cwest milwr a fu farw yn Aberhonddu tair blynedd yn ôl yn cael ei gynnal yn ddiweddarach eleni.

Bu farw Corporal Joshua Hoole, o Ecclefechan yn yr Alban, yn ystod asesiad corfforol ar ddiwrnod poeth ym mis Gorffennaf, 2016.

Roedd y dyn 26 oed yn cario gwerth 25kg o offer pan gwympodd i’r llawr 400m i ffwrdd o ddiwedd y cwrs wyth milltir.

Yn 2017 daeth adroddiad gan yr Awdurdod Diogelwch Amddiffyn i’r casgliad bod y milwr wedi marw o gyflwr meddygol anhysbys.

Ond mae tad y milwr Phillip Hoole wedi gwrthod y casgliad hynny, a bellach wedi llwyddo yn ei gais am barhad cwest ei fab.

Marwolaethau eraill

Dair blynedd cyn marwolaeth Joshua Hoole, bu farw tri milwr wrth-gefn yn ystod gorymdaith SAS (Y Gwasanaeth Awyr Arbennig) ym Mannau Brycheiniog.

Gwres oedd yn gyfrifol am y marwolaethau yma.