Mae Adam Price yn poeni fod ymdrech ar droed i “ymyrryd” â Phlaid Cymru ac i greu rhaniadau o’i mewn.
Mewn darn barn i wefan Nation.Cymru, mae arweinydd Plaid Cymru yn galw ar ei blaid i fod yn “unedig” ac yn “ddisgybledig” er mwyn sicrhau buddugoliaeth yn etholiad Cynulliad 2021.
Mae hefyd yn rhannu pryderon am gynllwyn honedig sydd, meddai, yn targedu etholiadau mewnol y Blaid i benodi uwch-swyddogion.
“Mae gennyf gyfrifoldeb, yn arweinydd, i ddiogelu cyfanrwydd democratiaeth ein plaid,” meddai.
“Ac yn anffodus, dw i wedi gweld adroddiadau o gyd-ymdrech – gan bobol sydd ddim yn aelodau o Blaid Cymru – i ymyrryd yn ein democratiaeth.
“Yn ôl yr adroddiadau yma, ymdrech yw hyn i [ddylanwadu] ar etholiadau mewnol ein Pwyllgor Gweithredol Cenedlaethol. Bydd hynny’n digwydd yn ystod ein cynhadledd flynyddol yn yr hydref.”
Be’ sy’n digwydd?
Daw’r darn barn wedi i Neil McEvoy – aelod sydd wedi’i wahardd o’r blaid – alw ar Adam Price i ddangos “arweiniad go iawn” tros fater ei waharddiad.
Mae Neil McEvoy eisoes wedi cyfleu anfodlonrwydd a rhai o uwch-swyddogion y blaid – yn benodol ei Phrif Weithredwr, Gareth Clubb; a’i Chadeirydd, Alun Ffred.
Ac mae wedi datgan ei gefnogaeth yn glir tuag at ymgeisydd am gadeiryddiaeth y blaid, Dr Dewi Evans. Mae’r gŵr yma yn awyddus i dderbyn Neil McEvoy yn ôl i’r blaid.
Cafodd Dr Dewi Evans ei benodi gan gangen etholaeth Gorllewin Caerdydd – yr etholaeth y methodd Neil McEvoy â’i hennill i Blaid Cymru yn etholiad y Cynulliad 2016.