Mae prif weinidogion Cymru a’r Alban wedi anfon llythyr at Boris Johnson yn erfyn arno i wrthod Brexit heb gytundeb yn llwyr.
Brynhawn heddiw, dywedodd Prif Weinidog newydd y Deyrnas Unedig ei fod yn ffafrio Brexit â del, ond ei fod yn hapus i adael heb gytundeb os nad oes opsiwn arall.
Mae Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, a Nicola Sturgeon, Prif Weinidog yr Alban, yn gwrthwynebu’r safiad yma ac yn dweud ei fod yn “destun pryder”.
“Cwbwl afresymol”
“Byddai’n gwbl afresymol i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ystyried anhrefn lwyr ymadael heb gytundeb,” meddai’r llythyr, “ac rydym yn pwyso arnoch i ymwrthod â’r posibilrwydd hwn mewn ffordd bendant a diamwys cyn gynted â phosib.
“Rydym hefyd yn dweud yn glir bod yn rhaid trosglwyddo’r penderfyniad ynghylch ymadael â’r Undeb Ewropeaidd yn ôl i’r bobol.
“Polisi’r ddwy lywodraeth yw y dylai senedd y Deyrnas Unedig ddeddfu ar gyfer refferendwm arall. Os bydd refferendwm o’r fath yn cael ei gynnal, byddwn yn dadlau’n gryf y dylai’r Deyrnas Unedig aros yn yr Undeb Ewropeaidd.”
Daw’r llythyr diweddaraf yma yn sgil galwad go debyg ar Theresa May ym mis Mehefin.