“Un o’r pethau mwyaf effeithiol am chwaraeon ac am bêl-droed yn benodol, yw ei fod yn chwalu bariau,” meddai Michael Sheen, oedd wedi gobeithio dilyn gyrfa fel peldroediwr cyn mentro i fyd actio.

“Rydw i wedi cael pêl-droed yn effeithio fy mywyd i yn uniongyrchol, ac rydw i wedi gweld sut mae’n gweithio trwy Soccer Aid ac UNICEF – ac rwyf wedi gweld sut mae pêl-droed yn effeithio pobol mewn llefydd anodd iawn.”

Mae’n help i bobol ddod at ei gilydd a chyfathrebu, meddai Michael Sheen, sy’n dweud fod pêl-droed hefyd yn chwalu bariau ieithyddol.

“Mae’n newid pobol, yn newid sut mae pobol yn ymwneud a’i gilydd yn y foment ac os oes ganddo’r gallu i wneud hynny mae gobaith yno.

Llawer o’r pwrpas tu ôl i Street Football Wales a Chwpan y Byd Digartref yw defnyddio pŵer pêl-droed i greu newid go iawn, meddai.