Dyw hi ddim yn ddirgelwch ble mae problem ddigartrefedd wedi deillio, yn ól Michael Sheen – mae mesurau llymder Llywodraeth San Steffa dros y blynyddoedd diwethaf yn brathu yn waeth nag erioed.

“Mae hyn yn cynnwys toriadau i fudd cymdeithasol, toriadau ar gyflog, rôl credyd cynhwysol sydd ddim yn cael yr un effaith ar bawb… ond y cael yr un effaith ar yr un cymunedau,” meddai’r actor o Bort Talbot sydd wedi gwneud ei farc ar y sgrin fawr yn Hollywood.

“Wrth i gynghorau a gwasanaethau brofi toriadau yn flynyddol mae canlyniad. Dyw e ddim yn mynd i unlle – mae ’na effaith bob tro, a hynny i’r bobol sydd ar y gwaelod.

“Felly mae’n rhaid gofyn pwy sy’n rhoi to uwch eu pennau? A dwi’n gobeithio bydd pobol yn ystyried y cwestiwn yma ar ôl Cwpan y Byd Digartref Caerdydd.”

“Ond mae gan bawb le i chwarae…”

Er bod bai ar y Llywodraeth mae Michael Sheen yn dweud fod gan “bawb ran i’w chwarae” i ddelio â digartrefedd.

“Nid ar y llywodraethau neu’r cynghorau yn unig mae’r cyfrifoldeb, ond arnon ni i gyd,” meddai. “Felly dyma rydan ni’n trio gwneud gyda’r platfform yma, Cwpan y Byd Digartref.