Mae Michael Sheen wedi rhoi arian i Gyngor Caerdydd, Llywodraeth Cymru, Prifysgol Caerdydd, Pêl-droed Stryd Cymru, Chwaraeon Cymru a Chymdeithas Bêl-droed Cymru i gynnal y Gwpan.

Ni fyddai’r holl arian sydd wedi mynd at Gwpan y Byd Digartref Caerdydd wedi dod i Gymru heblaw am y digwyddiad, yn ól Michael Sheen wrth golwg360.

Yn ogystal, mae’n dweud na fyddai’r holl sefydliadau mae’n cydweithio â nhw yn cytuno i roi’r arian yn syth i daclo digartrefedd, ond yn fodlon i ariannu digwyddiad fel hyn.

“Mae hyn yn caniatáu i bobol sydd yn gweithio o gwmpas yr un byrddau i ddechrau meddwl beth sy’n digwydd ar ôl y pêl-droed. Mae’n rhoi platfform i sicrhau bod lle i daclo digartrefedd,” meddai Michael Sheen.

“Mae’r gystadleuaeth nid yn unig yn gyfle i roi profiad i’r bobol sydd yn profi digartrefedd, ond mae’n dechrau etifeddiaeth.

“Dyw hi ddim ynglŷn â beth sydd yn digwydd yn ystod y Cwpan, ond beth sydd yn digwydd ar ei hol hi.”