Mae Cwpan y Byd Digartref yn dod i Gaerdydd am y tro cyntaf erioed yr wythnos nesaf – ac mae actor Hollywod o Bort Talbot ymysg yr enwau mawr sy’n hyrwyddo’r bencampwrieth sy’n dod â 500 o dimau at ei gilydd.

Yn ól Michael Sheen, mae’n fachyn i allu delio â phroblem anferth ar hyd a lled y byd.

Rhwng Gorffennaf 17 ac Awst 3, ym Mharc Bute yn y brifddinas, bydd 500 tîm – 48 o dimau dynion a 16 tîm menywod – o Fecsico i Awstralia ac o Dde Affrica i Norwy, yn cystadlu yn erbyn ei gilydd.

“Fe sylweddolais mai ei bwrpas yw bod yn brofiad sy’n trawsnewid bywydau rhai pobol,” meddai Michael Sheen wrth golwg360. “Heddiw, rydyn ni yma’n siarad am rai o’r bobol fwyaf ymylol yn ein cymdeithas.

“Mae’n anodd ymgysylltu â nhw, a phêl-droed yw’r peth sy’n dod â nhw at ei gilydd. Ac wrth ddod yn rhan o deulu a chreu ffrindiau mewn rhywle heb ragrith, maen nhw’n magu hyder a hunan-barch.”

Mae Michael Sheen wedi gweld a’i llygaid ei hun sut mae’r digwyddiad yn gallu trawsnewid bywydau pobol ddigartref, meddai.

“Mae’n creu platfform, a dyna pam ro’n i eisiau dod a hi i Gymru. I greu platfform er mwyn ymgysylltu á’r cyhoedd a chodi ymwybyddiaeth o’r problemau sy’n bodoli o gwmpas digartrefedd mewn ffordd newydd ac effeithiol.”