Fe fydd yna Gymro Cymraeg o Flaenau Ffestiniog yn chwarae dros ei wlad ym mhencampwriaeth Cwpan y Byd Digartref Caerdydd yr wythnos nesaf.

Mae’r dyn 19 oed yn ddigartref ers chwe blynedd, ac mae hefyd wedi bod mewn gofal. Ar ól cyfnodau yn byw yn Bae Colwyn, Caernarfon ac Abertawe, mae bellach yn teimlo ei fod wedi cael ei ryddid yn ól.. ac mae pél-droed wedi bod yn rhan fawr o hynny.

Yn y gorffennol fe fu’n chwarae i dimau ieuenctid Blaenau Ffestiniog, Caernarfon a Bangor.

“Dw i’n chwarae pêl-droed ers dw i’n cofio, ac roedd o’n rhoi sense of freedom i fi. Efo Street Football Wales dw i wedi cael platfform i fi ddod i nabod fy hun yn well.”

Canu’r anthem

“Dw i’n gallu expressio fy hun pan dw i’n chwarae, a dw i wrth fy modd yn bod yn rhan o hyn,” meddai Osian Williams eto wrth golwg360.

Fe geisiodd Osian Williams am le yn y Gwpan ddwy flynedd yn ôl yn Oslo, Norwy, dim ond i’w basbort fethu â chyrraedd mewn pryd ar gyfer gwneud y daith.

Mae’n edrych ymlaen at “bob dim” meddai, a methu dewis un peth uniongyrchol sy’n esbonio ei falchder o fod yno

“Dw i’n edrych ymlaen at chwarae pêl-droed, cyfarfod pobol newydd o wledydd gwahanol, ac yn edrych ymlaen at ganu’r anthem o flaen pawb – fydd hynna’n sbesial.”