Mae Fakhar Zaman, y batiwr agoriadol 29 oed o Bacistan, yn dweud ei fod e’n edrych ymlaen at chwarae ar gae Gerddi Sophia yng Nghaerdydd unwaith eto.

Ar ôl glanio yng Nghaerdydd fwy nag wythnos ar ôl llofnodi cytundeb gyda Chlwb Criced Morgannwg, fe fydd e’n teithio gyda’r garfan i gae’r Oval heno (nos Iau, Gorffennaf 25) wrth i’r sir herio Surrey yng nghystadleuaeth ugain pelawd y Vitality Blast.

Ac mae’n gobeithio chwarae am y tro cyntaf yng Nghaerdydd nos yfory, wrth i Forgannwg herio Middlesex yn yr un gystadleuaeth.

Mae gan Fakhar Zaman nifer o atgofion melys o gae Gerddi Sophia, lle sgoriodd e 50 yn erbyn Sri Lanca ac yna 57 yn erbyn Lloegr yn rownd gyn-derfynol Tlws Pencampwyr yr ICC yn 2017.

Ac mae’n dod i Forgannwg ar ôl taro 62 yn erbyn India a 44 yn erbyn De Affrica yng Nghwpan y Byd eleni. Dydy e ddim wedi chwarae yng Nghaerdydd ers iddo fe herio Lloegr mewn gêm ugain pelawd gyda’i wlad ym mis Mai.

Ond mae’n edrych ymlaen at ddychwelyd, ar ôl bod yn siarad â Mickey Arthur, prif hyfforddwr Pacistan, a wnaeth ei ddarbwyllo mai symud at Forgannwg oedd ei opsiwn orau ar hyn o bryd.

‘Sir hanesyddol’

“Ces i alwad ffôn gan fy asiant ar ôl Cwpan y Byd, ac fe ddywedodd fod Morgannwg yn awyddus i fy arwyddo i,” meddai wrth golwg360.

“Fe wnaeth Mickey Arthur hefyd siarad â fi am y peth, ac fe ddywedais i y byddwn i wrth fy modd yn cael chwarae i Forgannwg, ac fe wnes i lofnodi heb oedi.

“Dw i ddim yn gwybod llawer iawn am Gaerdydd, ond fe chwaraeais i mewn sawl gêm yma yn Nhlws y Pencampwyr yn 2017, felly mae gyda fi atgofion melys o’r cae hwn.

“Mae Morgannwg yn sir hanesyddol iawn. Mae criced sirol mor wahanol i gynghreiriau eraill, gan fod cymaint o hanes, felly dw i’n hoffi hynny.”

Problemau fisa

Roedd disgwyl y byddai Fakhar Zaman ar gael am wyth gêm yn y Vitality Blast, ond mae problemau â’i fisa yn golygu ei fod e wedi gorfod colli’r ddwy gyntaf – colled yn erbyn Gwlad yr Haf yng Nghaerdydd, a gêm yn erbyn Swydd Gaerloyw a ddaeth i ben yn gynnar oherwydd y glaw yn Cheltenham.

Ond mae’n dweud ei fod e’n edrych ymlaen at gael dechrau ar ei waith.

“Dw i’n hapus iawn i fod yn rhan o Glwb Criced Morgannwg, ro’n i’n chwilio am gyfleoedd i chwarae criced sirol ac fe ges i’r cyfle hwn, a hoffwn pe bai’n gyfnod cofiadwy.

“Roedd gyda fi broblemau â’r fisa ond diolch i’r PCB (Bwrdd Criced Pacistan) am fy helpu i gael fisa yn gyflym.

“Nawr ’mod i yma, dw i’n edrych ymlaen yn fawr.”

Fawr o amser i orffwys

Wrth asesu dwy gêm fawr i Forgannwg yn ystod ei wythnos gyntaf gyda’r sir, mae Fakhar Zaman yn dweud bod record y sir ar gae’r Oval yn rheswm i fod yn optimistaidd ynghylch eu gobeithion.

Mae Morgannwg yn ddi-guro mewn saith gêm yno, gan gynnwys pum buddugoliaeth o’r bron.

“Dw i wedi bod yn dilyn Morgannwg, ac maen nhw’n chwarae criced da, felly mae pawb yn hyderus y byddwn ni’n dda ac yn ennill y gêm,” meddai.

“Bydda i’n amlwg yn batio’n uchel yn y rhestr, ond dw i ddim wedi siarad ag unrhyw un eto gan fy mod i newydd gyrraedd.

“Yn y lle cyntaf, bydda i’n canolbwyntio ar y gêm yn erbyn Surrey ond wrth gwrs, rydyn ni hefyd yn cynllunio ar gyfer y gêm yn erbyn Middlesex. Gobeithio y byddan nhw’n mynd yn dda i ni.”

Bydd e’n gwisgo crys rhif 39 i Forgannwg, ac mae e wedi datgelu’r rheswm pam ei fod e wedi dewis y rhif hwnnw.

“Ro’n i yn y Llynges ym Mhacistan yn 2007, a rhif drws fy ystafell oedd 39. Roedd rhaid i fi ddewis rhwng tri neu bedwar o rifau, a dyna’r un wnes i ei ddewis.”

Surrey v Morgannwg – gemau’r gorffennol a’r timau

Ar wahan i Fakhar Zaman, does dim newid yng ngharfan 14 dyn Morgannwg ar gyfer y gêm yn erbyn Surrey.

Ar gae’r Oval y llynedd, cwrsodd Morgannwg 194 i ennill o flaen camerâu SKY Sports, wrth i Kiran Carlson daro hanner canred am y tro cyntaf yn y gystadleuaeth, wrth i Graham Wagg sgorio 46 heb fod allan.

Mae Morgannwg yn wythfed yn y tabl ar hyn o bryd ar ôl dechrau digon siomedig o ran eu canlyniadau, tra bod Surrey wedi colli eu dwy gêm gyntaf yn y gystadleuaeth hyd yn hyn.

Colin Ingram, capten Morgannwg, sydd â’r sgôr uchaf erioed i Forgannwg mewn gêm ugain pelawd ar yr Oval, ar ôl taro 91 yn 2015.

O ran y Saeson, mae Ben Foakes wedi anafu ei ochr, ac mae e’n ymuno â rhestr o chwaraewyr sydd wedi’u hanafu sydd hefyd yn cynnwys Gus Atkinson (cefn), Conor McKerr (sawdl a chlun) a Jamie Smith (clun).

Mae Rory Burns, Sam Curran a Jason Roy ar ddyletswydd gyda thîm Lloegr, ac mae Morne Morkel yn gorffwys.

Tîm Surrey: M Stoneman, A Finch, W Jacks, O Pope, R Clarke, T Curran, J Clark, L Plunkett, J Dernbach (capten), G Batty, Imran Tahir

Tîm Morgannwg: D Lloyd, Fakhar Zaman, C Ingram (capten), B Root, O Morgan, C Cooke, D Douthwaite, G Wagg, A Salter, M de Lange, M Hogan

Sgorfwrdd