Mae dau fachgen wedi dod o hyd i gyllyll a allai fod yn gysylltiedig â llofruddiaeth dyn 18 oed yng Nghaerdydd.

Cafwyd hyd i’r cyllyll ger Canolfan Ddinesig y brifddinas, yn dilyn marwolaeth Fahad Mohammed Nur ar Fehefin 2.

Roedd y bechgyn wedi bod yn chwilio am wiwerod ger yr amgueddfa pan ddaethon nhw o hyd i’r cyllyll, yn ôl yr heddlu.

Cefndir

Mae profion fforensig yn cael eu cynnal er mwyn cysylltu’r cyllyll â llofruddiaeth Fahad Mohammed Nur, ar ôl iddo gael ei drywanu ger gorsaf drenau Cathays am 12.24 fore Sul, Mehefin 2.

Mae tri o bobol wedi cael eu cyhuddo o’i lofruddio, a dydy’r heddlu ddim yn chwilio am unrhyw un arall erbyn hyn.

Cafodd y bechgyn hyd i’r cyllyll ar Fehefin 20, noson cyngerdd Pink yn Stadiwm Principality.