Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi bron i £1m er mwyn helpu gydag amaeth pan ddaw Brexit.
Bydd yr arian ar gael drwy’r Gronfa Bontio Ewropeaidd er mwyn helpu gydag amaethyddiaeth, pysgodfeydd a bwyd i ymateb i’r risgiau a’r cyfleoedd sy’n dod gydag ymadawiad gwledydd Prydain o’r Undeb Ewropeaidd.
Cafodd yr arian ei gyhoeddi gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, ar ddechrau canfed Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd heddiw (dydd Llun, Gorffennaf 22).
Yn ôl Lesley Griffiths mae angen “parhau i gefnogi ffermwyr ar ôl Brexit” ar ben “sefydlu cynlluniau er mwyn sicrhau dyfodol cadarn ar gyfer amaethyddiaeth.”
Fe fydd y cyllid yn mynd at gefnogi’r sectorau i gynllunio yn fwy effeithiol, at faterion iechyd meddwl a llesiant ac at ddatblygu cyfleoedd marchnata.
Bydd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy hefyd yn gwobrwyo ffermwyr am ganlyniadau amgylcheddol a bydd yn gwarchod y tir a’r amgylchedd er lles cenedlaethau’r dyfodol.
“Cyfnod ansicr”
Roedd y Llywodraeth wedi disgwyl y byddai gwledydd Prydain wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd adeg y sioe’r llynedd, meddai Lesley Griffiths.
“Yn anffodus, fodd bynnag, rydym yn wynebu cyfnod cwbl unigryw a chynyddol ansicr,” meddai.
“Heb unrhyw amheuaeth bydd ymadael heb gytundeb yn gwbl drychinebus i’r sector ac mae’n rhaid i ni geisio gwneud popeth o fewn ein gallu i geisio osgoi hyn.
“Ni allwn, fodd bynnag, anwybyddu’r ffaith bod ymadael heb gytundeb yn debygol iawn ac mae’n rhaid i ni baratoi ar gyfer pob sefyllfa bosibl.
Mae’r Gronfa Pontio Ewropeaidd gwerth £50 miliwn eisoes yn helpu busnesau, sectorau allweddol a sefydliadau partner i baratoi ar Brexit.
Ymgynghoriad bwyd a diod
Ddydd Mawrth bydd y Gweinidog yn lansio ymgynghoriad ar y cynllun gweithredu nesaf ar gyfer bwyd a diod 2020-2026.
Mae’r ymgynghoriad yn edrych ar sut y bydd Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru Llywodraeth Cymru yn cydweithio â’r sector er mwyn cyflawni tri nod:
- ‘Datblygu busnes’ – Ehangu cwmpas a gwerth y sector, a chynhyrchiant busnesau;
- ‘Sicrhau budd i’n pobl a’n cymdeithas’ – yn helpu busnesau i sicrhau manteision ehangach drwy waith teg, meithrin sgiliau a defnyddio adnoddau mewn modd cynaliadwy.
- Hyrwyddo Cymru fel gwlad fwyd – tynnu sylw at y sector, datblygu a chyflawni ein safonau uchel a dathlu llwyddiant.