Mae cwmni Volvo wedi galw 500,000 o geir ledled y byd yn ôl oherwydd injan ddiffygiol a allai peri risg tân.
Yn ôl y cwmni ceir o Sweden, mae’r diffyg yn effeithio ar rai cerbydau o flynyddoedd 2014-2019.
“Yn yr achosion mwyaf eithafol, mae posibilrwydd y gallai tân yn yr injan ddigwydd,” meddai Volvo mewn datganiad.
“Mae’r mater yn effeithio ar 69,616 o geir yng ngwledydd Prydain. Mae Volvo yn cysylltu â’r holl gwsmeriaid sydd wedi’u heffeithio.
“Rydym yn cymryd cyfrifoldeb llawn i sicrhau safonau ansawdd a diogelwch gorau ein ceir.
“Byddwn yn gwneud ein gorau glas i gyflawni’r weithred hon heb unrhyw anghyfleustra diangen i’n cwsmeriaid, ac rydym yn ymddiheuro am yr anghyfleustra a achoswyd ac rydym yn ddiolchgar am gydweithrediad ein cwsmeriaid.”