Mae Heddlu’r De yn dweud bod lle i gredu mai dyn 21 oed o Grangetown a gafodd ei lofruddio yng Nghaerdydd fore heddiw (dydd Sul, Gorffennaf 21).

Cafodd yr heddlu eu galw am oddeutu 4.50 i Heol Eglwys Fair yn dilyn adroddiadau o ymosodiad.

Ceisiodd y gwasanaethau brys ei adfywio cyn ei gludo mewn ambiwlans i Ysbyty Athrofaol Caerdydd, lle bu farw.

Mae ei deulu wedi cael gwybod, ac yn derbyn cefnogaeth gan yr heddlu.

Ymchwiliad

Yn ôl yr heddlu, roedd ffrwgwd ger bwyty McDonald’s ac Oxfam, ac fe gwympodd y dyn i’r llawr ar ôl cael ei drywanu.

Mae lle i gredu bod y sawl oedd yn gyfrifol wedi rhedeg i ffwrdd i gyfeiriad Heol Wood ac yna i gyfeiriad Heol Penarth y tu ôl i orsaf Caerdydd Canolog.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.