Mae’r RSPCA yn rhybuddio pobol na ddylen nhw ddod â’u cŵn gyda nhw i Sioe Fawr Llanelwedd yr wythnos nesaf.
Does dim hawl i gŵn gael mynediad i’r maes, ac mae’r gymdeithas yn gofidio y bydd rhai perchnogion yn gadael eu cŵn yn eu ceir yn ystod y dydd.
Maen nhw wedi gosod arwyddion ar Faes y Sioe yn sôn am y peryglon o adael cŵn mewn cerbydau ar ddiwrnod poeth, ac fe fydd swyddogion yn monitro’r meysydd parcio.
“Mae Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru yn ddigwyddiad y mae edrych ymlaen mawr ato, ac yn ddathliad o amaeth ac anifeiliaid o bob cwr o’r wlad,” meddai Phil Lewis, un o’r swyddogion a fydd yn y Sioe.
“Dydy’r trefnwyr ddim yn rhoi’r hawl i gŵn fynychu, ac rydym wir am osgoi sefyllfa lle mae’r Sioe yn cael ei difetha gan gŵn sy’n cael eu rhoi mewn sefyllfa beryglus a allai droi’n farwol.
“Mae ein neges yn un syml: ’mae ddim yn hir yn rhy hir’ i gi mewn car poeth.”
Gall y gwres achosi llu o broblemau iechyd i gŵn, meddai, a’r rheiny’n gallu arwain at farwolaeth yn yr achosion mwyaf eithafol.
Rhybuddion eraill
Ymhlith y rhybuddion eraill i berchnogion cŵn mae hwnnw i fod yn ofalus wrth fynd â chŵn i gefn gwlad, rhag iddyn nhw godi ofn ar dda byw.
Maen nhw’n rhybuddio y dylid cadw cŵn ar dennyn bob amser.
Fe fu sawl achos yn ddiweddar o orfod achub da byw sydd wedi mynd yn sownd ar ôl cael ofn.