Mae Gloria De Piero, yr aelod seneddol Llafur, yn dweud na fydd hi’n sefyll yn yr etholiad cyffredinol nesaf yn sgil “diffyg goddefgarwch” o fewn y blaid.

Bu’n aelod seneddol yn Ashfield yn Swydd Nottingham ers naw mlynedd, ond mae’n dweud bellach na all hi “ymroi” i’r swydd am wyth mlynedd arall.

Mae’n dweud bod yna “ddiffyg goddefgarwch tuag at wahanol safbwyntiau yn y Blaid Lafur” a bod hynny’n “destun pryder” iddi.

“Mae’n rhaid i ni barchu’n gilydd, hyd yn oed os ydyn ni’n anghytuno, oherwydd rydym oll yn rhan o’r blaid hon,” meddai.

Gwrth-Semitiaeth

Daw ei chyhoeddiad ar y diwrnod pan fo’r Cyngor Arweinyddiaeth Iddewig yn galw o’r newydd am ymateb cryfach gan Lafur i wrth-Semitiaeth o fewn y blaid.

Mewn llythyr, mae’r Cyngor yn dweud bod y Blaid Lafur yn “denu” agweddau gwrth-Semitaidd ac yn “ymwrthod ag Iddewon”.

Mae Bwrdd Dirprwyon Iddewon Prydain hefyd yn ategu’r sylwadau, gan alw ar gabinet cysgodol Llafur i weithredu ar gyfres o argymhellion.