Mae o leiaf 12 o bobol wedi cael eu lladd mewn ffrwydrad mewn ffatri nwy yn Tsieina.
Mae lle i gredu bod 13 o bobol wedi cael eu hanafu, a bod tri o bobol eraill ar goll yn dilyn y digwyddiad yn ninas Sanmexia.
Fe ddigwyddodd y ffrwydrad neithiwr (nos Wener, Gorffennaf 19) yn nhalaith Henan, gan dorri ffenestri a drysau 1.9 milltir i ffwrdd o safle’r ffrwydrad.
Ond mae’r awdurdodau’n dweud nad ffrwydrad nwy oedd e, ond mae’r holl weithgarwch yn y ffatri wedi dod i ben am y tro.