Mae 152 o bobol wedi marw erbyn hyn o ganlyniad i’r glaw mawr yn ne Asia.
Mae miliynau o bobol wedi cael eu heffeithio yng ngwledydd Nepal, India a Bangladesh, yn ôl yr awdurdodau.
Mae o leiaf 90 o bobol wedi marw yn Nepal, a 50 yn nhalaith Assam yn India, lle mae rhinoserosiaid wedi cael eu lladd ym mharc cenedlaethol Kaziranga.
Mae dwsin o bobol wedi’u lladd yn Bangladesh.
Mae glaw mawr yn effeithio’r cyfandir rhwng mis Mehefin a mis Medi bob blwyddyn, er eu bod yn hanfodol ar gyfer cnydau yn ystod y tymor.